Mae mwy a mwy o weithleoedd yn mabwysiadu technolegau newydd. Gall undebau helpu i sicrhau bod gweithwyr yn elwa.

Beth yw'r broblem?

Gall cyflwyno technoleg newydd gael effaith negyddol ar weithwyr sy'n cynnwys:

  • Llai o fwynhad: Mae technoleg newydd yn peryglu'r peth y mae gweithwyr yn dweud eu bod yn tueddu i'w hoffi fwyaf am eu swyddi – rhyngweithio a chyfathrebu dynol.
  • Cyflog ac amodau gwaeth: Mae rhai gweithwyr yn teimlo bod technoleg newydd yn rhoi pwysau arnynt i weithio'n galetach a gwneud mwy am yr un cyflog neu cyflog llai
  • Monitro gormesol: Mae rhai cyflogwyr yn defnyddio technoleg newydd i weithredu lefelau eithafol o wyliadwriaeth a rheolaeth y gweithlu

Ar y llaw arall, os yw undebau llafur yn cymryd rhan a bod newid yn cael ei gyflwyno mewn ffordd resymegol, gall technoleg newydd wella ansawdd bywyd gwaith.

  • Gellir lleihau tasgau ailadroddus a diflas gan greu mwy o amser ar gyfer gwaith diddorol a gwerthfawr
  • Gall offer newydd wneud gwaith yn fwy cynhyrchiol
  • Gellir gwneud gwaith yn fwy diogel

Beth all undebau ei wneud i helpu?

Gall undebau a chynrychiolwyr helpu eu haelodau drwy drafod gyda'r rheolwyr ynghylch cyflwyno technolegau digidol newydd.

Mae undebau, cyflogwyr sector cyhoeddus a llywodraeth Cymru wedi cytuno i Egwyddorion ar Ddigidoli yng Nghyngor Partneriaeth y Gweithlu fel rhan o'r cytundeb Partneriaeth a Rheoli Newid presennol.

Gall gweithwyr yn sector cyhoeddus Cymru nawr ofyn i'w cyflogwr fodloni telerau egwyddorion Gwaith Teg sef:

  • Llais a chyfranogiad gweithwyr – drwy gynnwys gweithwyr ac undebau mewn trafodaethau am dechnolegau newydd
  • Newid swyddi hyblyg a diogel – drwy adleoli staff os yw eu swydd mewn perygl
  • Cyfle i symud a thwf – drwy ddarparu cyfleoedd i staff ailhyfforddi
  • Iechyd, diogelwch a lles – drwy asesu'r risg i staff technolegau newydd
  • Parchu hawliau gweithwyr – drwy roi rôl gref i undebau pan gyflwynir technoleg newydd

Yn y sector preifat mae nifer cynyddol o enghreifftiau lle mae gweithwyr wedi dod i gytundeb tebyg gyda'u cyflogwyr.

Ym mis Tachwedd 2021, cynhaliwyd digwyddiad yn y Senedd i drafod effaith technoleg newydd a  Deallusrwydd Artiffisial ar weithwyr. Noddwyd y digwyddiad gan Sarah Murphy AS a chlywsom gan Weinidogion Llywodraeth Cymru, aelodau'r Senedd, undebau ac academyddion. Gwyliwch y digwyddiad yn llawn: