TUC Cymru yw llais Cymru yn y gwaith. Gyda mwy na 50 o undebau llafur mewn aelodaeth, mae TUC Cymru yn cynrychioli bron i hanner miliwn o weithwyr. ‘Rydym yn ymgyrchu dros fargen deg yn y gwaith a chyfiawnder cymdeithasol yn y wlad hon a thramor.
Sefydlwyd TUC Cymru yn 1974. Mae’n rhan annatod o’r TUC ac fe’i sefydlwyd i sicrhau fod rôl y TUC yn cael ei weithredu’n effeithiol yng Nghymru.
Nod TUC Cymru yw gweithio gyda mudiadau eraill ar lefel Cymru-gyfan. Un o’n prif swyddogaethau yw cydlynu cysylltiadau undebau llafur gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru a sicrhau fod buddiannau undebwyr llafur Cymru yn cael eu cynrychioli’n effeithiol o fewn i holl benderfyniadau’r Cynulliad.
Caiff polisïau TUC Cymru eu trafod a’u cytuno yn ein Cynhadledd Flynyddol bob Mai, lle gall pob undeb sydd mewn aelodaeth anfon cynrychiolwyr. Mae Cyngor Cyffredinol TUC Cymru yn goruchwylio rhaglen waith y mudiad gydol y flwyddyn.
Mae Gwasanaeth Addysg TUC Cymru yn trefnu rhaglen o gyrsiau wedi eu hachredu ar gyfer cynrychiolwyr undebau llafur; am fwy o wybodaeth ynglyn â’r cyrsiau hyn, cysylltwch â TUC Cymru.
Mae Undebau Llafur yn helpu eu haelodau i ddod ymlaen yn y gwaith. Mae Gwasanaethau Dysgu TUC Cymru yn flaenllaw o ran cyngor ac arweiniad gan undebau ar gyfer cynrychiolwyr ac aelodau. Mae Tîm Gwasanaethau Dysgu TUC Cymru hefyd yn darparu arbenigedd ac yn cynorthwyo undebau yng Nghymru i gael mynediad i Gronfa Dysgu Undebau Cymru, a gaiff ei ariannu gan Lywodraeth y Cynulliad.
This page http://www.tuc.org.uk/tuc/regions_info_wales-cy.cfm
printed 23 May 2013 at 03:10 hrs by 23.22.252.150